Rydym yn falch o chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni targed dros dro heriol i ailgylchu 70% o'r gwastraff yng Nghymru erbyn 2025.
Wrth ddatblygu seilwaith ailgylchu Cymru, byddwn hefyd yn helpu i hybu economi Cymru drwy greu swyddi yn y sector. Drwy gefnogi busnesau ailgylchu yng Nghymru yn uniongyrchol, rydym yn anelu at gynyddu trosiant £6m y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf.
Mae'r nod terfynol, sef ei gwneud yn bosibl i wastraff a gynhyrchir yng Nghymru gael ei brosesu o fewn ei ffiniau, yn her rydym yn benderfynol o ymateb iddi, felly rydym yn falch o ddarparu ystod o grantiau cyfalaf a chymorth.