Rydych chi yma: Hafan / WRAP Cymru / Cymraeg / Manwerthu /
Courtauld Commitment signatories.

Manwerthu

Cynhyrchir tua 5.9 miliwn o dunelli o wastraff deunydd pecynnu cartrefi yn y DU bob blwyddyn, a daw tua 6% ohono o Gymru. Ailgyfeiriwyd tua 7,500 o dunelli o wastraff pacio o safleoedd tirlenwi gan waith WRAP yng Nghymru y llynedd, ond mae’r her yn un sylweddol o hyd.

Lleihau gwastraff

Mae WRAP Cymru yn falch o gael cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi gwaith WRAP i leihau gwastraff manwerthu a deunydd pecynnu drwy Ymrwymiad Courthauld.

Mae Ymrwymiad Courthauld yn gytundeb gwirfoddol rhwng WRAP a siopau bwyd a pherchenogion brandiau mawr, sy’n arwain at ddatrysiadau a thechnolegau newydd fel y caiff llai o fwyd, cynhyrchion a deunydd pecynnu eu gwastraffu mewn cartrefi. Mae dros 40 o werthwyr, perchenogion brandiau, gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr mawr wedi llofnodi’r cytundeb ers iddo gael ei lansio, sy’n cynrychioli 92% o archfarchnadoedd bwyd Cymru.