Ers i WRAP Cymru gael ei sefydlu yn 2007, rydym wedi darparu dros £500,000 o gyllid grant cyfalaf i helpu i sefydlu ac ehangu busnesau ailgylchu, arbed £1.3 miliwn i ddiwydiant adeiladu Cymru drwy leihau gwastraff hyd yr eithaf a chefnogi tri chyfleuster treulio anerobig y rhagwelir y byddant yn ailgyfeirio dros 300,000 tunnell o wastraff o safleoedd tirlenwi dros y pum mlynedd nesaf.
Ceir pwyslais arbennig ar hwyluso’r broses o ddatblygu seilwaith ailbrosesu strategol yng Nghymru. I’r perwyl hwnnw, mae WRAP Cymru wedi datblygu mecanwaith Cystadleuaeth Gyfalaf mwy hyblyg, sy’n rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr ddwywaith y flwyddyn gan dargedu nifer o ffrydiau gwastraff Masnachol a Diwydiannol gwahanol a nodwyd fel blaenoriaethau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym hefyd wedi datblygu cyfres o gynhyrchion cynorthwyol arloesol, sy’n ategu’r rhaglenni sy’n bodoli yn y DU ar hyn o bryd, sy’n benodol i Gymru ac yn cynnig cyfleoedd ariannu ddwywaith y flwyddyn.
Rydym yn falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd gennym hyd yn hyn, ond rydym yn gwybod na allwn ddarparu ein gweledigaeth ar ein pennau ein hunain. Mae llawer o’r hyn a gyflawnwyd o ganlyniad i gyfraniad ein partneriaid strategol, nid lleiaf cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac wrth i ni edrych tuag at y dyfodol, gobeithiwn weithio gyda’n rhanddeiliaid i greu Cymru sy’n defnyddio adnoddau hyd yn oed yn fwy effeithiol.