Rydych chi yma: Hafan / WRAP Cymru / Cymraeg / Amaethyddiaeth a Thirweddu /
A field of wheat.

Ffermio, tyfu a thirweddu

Rydym yn gweithio gyda ffermwyr, tyfwyr, ymgynghorwyr cnwd, cyflenwyr cynnyrch a gweithgynhyrchwyr cyfryngau tyfu i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion compost a sefydlu’r Protocol Ansawdd ar gyfer Compost.

Compost o ansawdd

BSI PAS 100 ar gyfer deunyddiau wedi’u compostio, a noddwyd gan WRAP ac a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Ailgylchu Nwyddau Organig (AFOR).

Mae’n gwella hyder mewn deunyddiau wedi’u compostio ymysg defnyddwyr terfynol, unigolion sy’n pennu gofynion a chymysgwyr, ac mae’n helpu cynhyrchwyr i wahaniaethu rhwng cynhyrchion sy’n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn perfformio’n dda.

Treulio anerobig

Mae treulio anerobig yn faes sy’n tyfu yng Nghymru ac mae’n darparu ffordd effeithiol o ymdrin â gwastraff organig tra’n cynhyrchu ynni. Mae WRAP Cymru yn helpu Cymru i gynyddu ei seilwaith ar gyfer cyfleusterau treulio anerobig.