Mae WRAP Cymru yn cefnogi menter WRAP i Haneru’r Gwastraff a anfonir i Safleoedd Tirlenwi yng Nghymru, gyda’r nod o haneru’r gwastraff adeiladu, dymchwel a chloddio sy’n mynd i safleoedd tirlenwi erbyn 2012.
Er mwyn cyflawni’r nod hwn, bydd WRAP Cymru yn parhau i weithio gydag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, y sector adeiladu a’i gadwyn gyflenwi i leihau gwastraff a chynyddu’r defnydd a wneir o ddeunyddiau eildro mewn prosiectau adeiladu.